Select your preferred language…
Select your preferred language…









Pryd wnaeth Penrhyn Tyddewi, Sir Benfro, neu’r hil ddynol erioed, bleidleisio dros reolaeth yr UD ar y gofod?Pryd wnaeth Penrhyn Tyddewi, Sir Benfro, neu’r hil ddynol erioed, bleidleisio dros reolaeth yr UD ar y gofod?




































Wrth i’r Unol Daleithiau ddatgan yn agored ei fwriad i sicrhau ‘rheolaeth ar y gofod’, ‘tra-arglwyddiaeth’’ ar ‘gyfrwng y gofod’, a ‘gallu i wadu i eraill ddefnydd ar y gofod1, yn groes i ddymuniadau’r mwyafrif helaeth cenhedloedd y Ddaear, daw pwrpas system wrth-loeren radar DARC yn eithaf, wel, hunanesboniadol.

DARC yw ei enw. Ac mae'n sicr yn dywyll ei natur.

Beth yw DARC?

‘Uwch-gysyniad Radar Gofod Dwfn’ yw DARC, gorsaf radar sy’n olrhain union drywydd lloerennau cyfathrebu a milwrol estron yn y gofod, fel y gall awyrennau’r DU, yr UD ac Awstralia hedfan 60,000 tr i fyny2, a’u chwythu’n chwilfriw â thaflegrau gwrth-loeren, gan greu teilchion cylchdroadol (math o ‘sbwriel gofod’).

Enw'r gêm, fwy neu lai, yw troi gofod, sydd eisoes yn frith o weddillion mwy na nag un ar ddeg mil o lansiadau dynol a mwy na 130 miliwn o deilchion sbwriel gofod,3 yn fath o safle tirlenwi mawr—ac yna gwneud dim i’w lanhau.

Cyfrinach Arwynebol DARC

Os daw popeth a glywch o gyfryngau lle mae tri chyhoeddwr yn rheoli 90% o gyfathrebu print a 40% o gyfathrebu ar-lein (fel, dyweder, cyfryngau’r DU),4 gellid maddau i chi am gredu bod DARC yn amddiffyniad angenrheidiol yn erbyn llwyth o wledydd tramor afresymol o ymosodol, a bod a wnelo’r UD ddim oll â’r agwedd ymosodol.

Gallech feddwl mai Rwsia oedd y cyntaf i arbrofi ag arfau gwrth-loeren, ac mai dyna'r ymddygiad ymosodol roedd yr UD yn ymateb iddo. Gallech feddwl mai gwledydd fel China a Rwsia oedd heb ddim diddordeb mewn ymgyrch o dan arweiniad y Cenhedloedd Unedig i ddadfilwreiddio’r gofod a chaniatáu iddo fod yn gomin dynol cyffredin i’r byd fel y dylai fod, ac mai’r UD mewn gwirionedd oedd wedi cychwyn, ac arwain, y fath ymgyrch.

Y broblem, wrth gwrs, yw mai’r gwirionedd yw’r gwrthwyneb llwyr i bopeth y mae'r Unol Daleithau’n ei ddweud.

Ar ôl rhoi'r gorau i arbrofion cychwynnol ar arfau gwrth-loeren ym 1983, cynhaliodd Rwsia ei phrawf arfau gwrth-loeren llwyddiannus cyntaf, yr A-235 'Nudol,' yn 2015,5 a China yn 2007.6 Cynhaliodd yr UD ei phrawf arfau gwrth-loeren llwyddiannus cyntaf dri-deg mlynedd ynghynt na Rwsia, ym 1985, pan daniodd jet F-35 arf gwrth-loeren ASM-135 yn arsyllfa solar Solwind.7

Mewn cytundebau Cenhedloedd Unedig yn 2002, 2008 a 2014, gweithiodd Rwsia a China i geisio diweddaru Cytundeb Gofod Allanol 1967 (sy’n atal gwladwriaethau rhag hawlio sofraniaeth dros y gofod),8 gydag un cyfarfod nodedig o’r Cynulliad Cyffredinol yn 2014 yn arwain at bleidlais gan 126 o wledydd yn erbyn lleoli arfau am y tro cyntaf yn y gofod allanol. Roedd yr UD yn un o ddim ond pedair gwlad i bleidleisio dros arfau o'r fath, â’i gweithredoedd, yn nodweddiadol o’r UD, yn gwbl wahanol i'w honiadau cyhoeddus o ofal am y gofod fel parth ar gyfer cydweithrediad dynol, heddwch, neu ddatblygiad gwyddonol.9

Tra bod gweddill y byd yn ceisio cynnal y weledigaeth ddiplomyddol o’r gofod fel comin byd-eang nad yw o fewn sofraniaeth na goruchafiaeth unrhyw un hil, mae'r UD yn lledaenu camwybodaeth ei bod o dan fygythiad ymosodiad o’r gofod gan wledyddd eraill, tra'n cyffroi’r agwedd amddiffynnol yr honna sy’n ei bygwth trwy ei hymddygiad ehangol ei hun.

Edrych yn go dywyll, felly?

Yn sicr: project hunan-glodforus Americanaidd yw DARC heb ddim diben ac eithrio cadw’n fyw awydd yr UD i ehangu beunydd, sy'n fwyfwy amherthnasol mewn byd amlbegynol lle mae gwledydd, yn amgen i’r UD, yn profi â'u llwyddiannau nad oes angen iddynt ddibynnu bellach ar fodel gorllewinol o drais imperialaidd a lladrad adnoddau sy’n prysur ddirywio, i fod yn fwy llewyrchus na ni.

Ond yn fwy na hyn, dim ond y ddiweddaraf o weithredoedd anghyfreithlon yr UD o dan gyfraith ryngwladol yw DARC—ond y tro yma, mae am wneud y DU, ac yn benodol, sir a Chyngor Sir Benfro, yn gyd-droseddwyr.

Mae’n mynd yn waeth.

Byddai'r gostyngiad cyffredinol yn sadrwydd diogelwch byd-eang oherwydd ymdrechion cynyddol yr UD—neu unrhyw wlad—i ddatblygu system arfau fel DARC yn beth gwael ynddo’i hun.

Ond rhywsut, mae'n mynd yn waeth. Mae cost achos-gwaethaf ymosodiad sylweddol ag arfau gwrth-loeren gan genedl fel yr Unol Daleithiau, yn union fel yn achos arfau dinistr torfol mwy confensiynol fel arfau niwclear, biolegol neu AI, yn risg unigryw o beryglus sy'n gwneud DARC yn fath hollol newydd o fom-amser sy’n tician.

Mae'n cychwyn gyda Syndrom Kessler.

Pan lansiodd yr Unol Daleithiau yr arf gwrth-loeren cyntaf erioed ym 1985, cafodd lloeren 300 milltir fry ei chwalu’n 285 o deilchion ar wahân o sbwriel gofod wrth iddi gael ei dinistrio. Cafodd rhai o'r teilchion eu gwthio i orbit cymaint â 300 milltir yn uwch, gan greu cwmwl o sbwriel a barhaodd i gylchdroi o gwmpas y ddaear am 20 mlynedd arall, a denu condemniad rhyngwladol.10

Pam y fath gondemnio, tybed? Mae tipyn o sbwriel gofod yn beth drwg, ond ddim yn ddiwedd y byd. Heblaw am y ffaith y gallai olygu hynny.

Wrth i nifer y lloerennau mewn orbit o amgylch y ddaear gynyddu ar garlam, gyda’r nifer anhygoel o 42,000 o rai arfaethedig gan SpaceX yn unig yn 2021,11 bu gwyddonwyr yn rhybuddio’n daer ers degawdau am senario beryglus dros ben sy'n mynd yn fwyfwy tebygol fesul awr: Syndrom Kessler.

Mae'r syndrom hon yn disgrifio sefyllfa gynyddol debygol lle gallai'r teilchion sbwriel gofod metelaidd sy'n cylchdroi'r ddaear, ar gyflymdra o ddegau o filoedd o filltiroedd yr awr, yn cario egni bwledi neu hyd yn oed fomiau bychain (hyd yn oed y teilchion lleiaf), pe baent yn dinistrio un lloeren yn unig, greu effaith domino lle mae teilchion un lloeren yn dinistrio'r lloeren nesaf, a'r nesaf, gan arwain, o bosibl, at ddinistrio degau o filoedd o loerennau mewn orbit mewn un digwyddiad rhaeadrol trychinebus, y cwbl wedi’i ysgogi o bosib gan ddim ond un lloeren a saethwyd i lawr, ar gyfarwyddyd cyfesurynnau targedu radar DARC.12

Byddai senario o’r fath yn golygu y byddai llawer o rhyngrwyd y ddaear a llawer o’i galluoedd cyfathrebu yn cael eu plymio i’r tywyllwch.

Ond mae'n mynd yn llawer gwaeth. Oblegid byddai digwyddiad rhaeadrol digon mawr yn cynhyrchu niwl enfawr o deilchion gofod ffrwydrol ei gyflymdra a mor anferthol fel na fyddai'n bosibl i’r ddynolryw hyd yn oed fentro’n ôl i'r gofod am ddegawdau.13

Yr eliffant yn yr ystafell

Yn hytrach nag amddiffyn diogelwch byd-eang, felly, byddai digwyddiad rhaeadrol o’r fath—â pheth eironi—yn dileu unrhyw bosibilrwydd y gallai’r rhai sy’n cefnogi prosiectau milwrol parth-gofod fel DARC ddefnyddio unrhyw fesurau diogelwch yn y gofod o gwbl. Mae’r ddadl o blaid DARC, yn hytrach na bod yn ddadl dros ddiogelwch byd-eang chwedl ei militariaid, yn ddadl dros ein taflu’n bendramwnwgl i mewn i chwalfa lwyr diogelwch byd-eang pob cenedl o bosibl.

Nid sôn am flacowt 4G wythnos yw hyn.

Rydyn ni'n sôn am derfyn ar gyfathrebu lloeren, adroddiadau tywydd fel rydym yn gyfarwydd â nhw, a'r holl declynnau angenrheidiol i symud o gwmpas, ymdrefnu yn y ffyrdd rydym yn ddibynnol arnynt, a brwydro bygythiadau dirfawr fel chwalfa’r hinsawdd.

A dyna'n union beth fyddai'n digwydd i'r lloerennau, pe bai senario Kessler, sy'n prysur fynd yn fwyfwy tebygol bob wythnos, yn cael ei ysgogi gan ddinistr bwriadol lloerennau, wedi ei hwyluso gan radar DARC. Byddai’r blaned ei hun yn destun pryder, wrth i’w phobl syllu ar awyr llawn glaw fel clwstwr-fomiau o ysgyrion lloeren chwim ei symudiad, yn rhy fawr i fod wedi chwalu yn atmosffer y Ddaear, gan esgor ar gawod meteorau o waith dyn, y gallai fod nemor unlle i fodau dynol nac anifeiliaid guddio rhagddi.

DARC. Syniad tywyll, du sy'n perthyn yn y cysgodion.

Fe’i gwnawn hi’n glir yma yn PARC yn erbyn DARC. Dydyn ni, a’r llu sy’n ein cefnogi yma lle rydym yn byw, ddim ond yn sefyll yn erbyn DARC yn Sir Benfro.

Rydym yn sefyll yn erbyn DARC. Atalnod llawn.

Rydym yn erbyn y radar ym mhob leoliad yn y DU lle cafodd ei gynnig, yr holl leoliadau yn yr UD, a'r holl leoliadau yn Awstralia.

Safwn gyda phob ymgyrch yn erbyn radar DARC yn West Freugh, yr Alban.

Safwn gyda phob ymgyrch yn erbyn radar DARC yn Barford St. John, Lloegr.

Safwn gyda phob ymgyrch yn erbyn radar DARC yn Croughton, Lloegr.

Safwn gyda phob ymgyrch yn erbyn radar DARC yn Texas, Unol Daleithiau America.

A safwn gyda phob ymgyrch yn erbyn radar DARC yn Ningaloo, Awstralia.

Mae'r UD, y WA a chorfforaethau arfau yn bethau mawr i’w herio. A allwn ni ennill, go iawn, ac atal DARC?

Mae sawl ffordd y gall pawb chwarae rhan. Y cyntaf yw arwyddo'r ddeiseb. Mae sgrifennu at y rhai sy’n penderfynu, cyfrannu at ein cronfa a’n helpu ar gyfryngau cymdeithasol yn ffyrdd gwych hefyd.

Ond mae un peth mawr gennym ni nad oes gan fyddin yr UD.

Mae’r bobl gennym ni.

Mae gennym wirfoddolwyr a fydd yn dosbarthu taflenni ar bob stepen drws yn yr ardal, boed law neu hindda. Mae gennym y gwydr ar gefnau drysau pob siop leol. Mae gennym sticeri ar gyfer pob arwyneb a phobl i'w glynu; gwyddom ble i osod yr holl arwyddion min-ffordd; gwyddom ble mae'r lleoliadau gorau; rydym yn adnabod pob cornel o'n gwlad na wyddan nhw ddim amdani, a gorau oll, mae gennym y gwir ar ein hochr.

Fe gurwn y radar ar garreg y drws, ar y cyfryngau cymdeithasol, yn y Cyngor, y Senedd ac ar y strydoedd.

Ymunwch â ni yn PARC yn erbyn DARC. Dewch i ni wneud DARC yn hen hanes!

Os na chawsoch gyfle i ddarllen ein canllawiau ar pam fod DARC yn anniogel i drigolion preswyl a pham y byddai’r cwbl yn niweidiol heb ddod â dim budd i bobl, economi, twristiaeth ac amgylchedd Sir Benfro, dechreuwch nawr gydag iechyd:





Ond yn gyntaf, cymerwch y camau buan hyn i gefnogi Sir Benfro gyda PARC yn erbyn DARC!

YMUNWCH Â NI AR FACEBOOK



ARWYDDWCH Y DDEISEB YN ERBYN DARC



LOBÏWCH Y RHEINI SY’N PENDERFYNU

















A hoffech gyfrannu? Gyda’n cynlluniau uchelgeisiol i frwydro yn erbyn DARC, fyddai dim yn ein helpu’n fwy na’ch cyfraniad caredig. Diolch enfawr o flaen llaw!


















Diolchiadau

    Hoffem ddiolch o galon i Paul Mobbs am lawer o'r ymchwil i DARC a geir yn yr erthygl hon. Da chi, edrychwch ar y casgliad hynod gyfoethog, eang ei gwmpas, a manwl ei ymchwil o erthyglau ar y ffordd y mae'r byd yn gweithio go iawn, gan Paul ac eraill, yn The Free Range Activism Website.


Cyfeiriadau

    1. 'Vision for 2020', Rheolaeth Gofod yr Unol Daleithau (Llu Gofod yr Unol Daleithau bellach), 1997,
    2. 'Britain's Space Command training to send fighter jets to space to destroy enemy satellites', The Express, 21 Chwefror 2021,
    3. 'Space Environment Statistics', Asiantaeth Ofod Ewrop,
    4. 'Who owns the news? Mail titles, News UK and Reach dominate, report finds', Aisha Majid, PressGazette, 11 Hydref 2023,
    5. 'Russia Flight Tests Anti-Satellite Missile', Bill Gertz, The Washington Free Beacon, 2 Rhagfyr 2015,
    6. 'China confirms anti-satellite missile test', The Guardian, 28 Ionawr 2007,
    7. 'The Death of a Satellite', Dr. Raymond L. Puffer, Edwards Air Force Base (California), 13 Medi 1985,
    8. 'Weaponising Space Debris: Britain, "DARC", and the US military’s control of the "space domain"', Paul Mobbs, The Free Range Activism Website, 2 Hydref 2021,
    9. 'General Assembly Adopts 63 Drafts on First Committee’s Recommendation with Nuclear Disarmament at Core of Several Recorded Votes', Cenhedloedd Unedig, 2 Rhagfyr 2014,
    10. 'Deliberate Satellite Fragmentations and their Effects on the Long-Term Space Environment', Nicholas L. Johnson, NASA Johnson Space Center, t. 10,
    11. 'Starlink satellites: Everything you need to know about the controversial internet megaconstellation', Elizabeth Howell a Tereza Pultarova et al., Space.com, 20 Chwefror 20 2024,
    12. 'Kessler Syndrome and the space debris problem', Mike Wall, Space.com, 14 Gorffennaf 2022,
    13. '"Weaponising Space Debris": Britain, "DARC", and the US military’s control of the "space domain"', Paul Mobbs, YouTube, 2 Hydref 2021,