Select your preferred language…
Select your preferred language…

DWEDWCH 'NA' WRTH DARC







































LLOFNODI'R DDEISEB



























Ni yw Sir Benfro. Ac rŷn ni’n sefyll yn erbyn y radar.


Mae 'Llu Gofod yr Unol Daleithau'un o lu o ddyfeisiadau penchwiban Donald Trumpwedi cynnig un o’r mentrau milwrol gwaethaf a awgrymwyd erioed yn y DU: rhwydwaith o 27 dysgl radar o’r enw DARC yng nghanol Penrhyn Dewi. Bydd y datblygiad hwn yn peryglu iechyd, yn dinistrio twristiaeth ac andwyo phrydferthwch yr ardaloedd hyn.

Bydd dysglau radar DARC arfaethedig o faint adeilad, aml-lawr o ran lled ac uchder, ac yn creu gymaint o ymbelydredd fel y dengys astudiaethau gwyddonol na fydd hi’n ddiogel i neb fyw yn agos atynt.

Mae’n mynd yn waeth.

Mae‘r cynlluniau a gyflwynwyd gan fyddin yr UD yn dynodi yn benodol eu bod am adeiladu gorsaf radar y gellid ei gweld ar y gorwel o draeth Niwgwl a harbwr Solfach. Digon o ysgytwad i chi?

Ac yn waeth byth.

Ar ben hynny, mae amwyster a diffyg eglurder y cynlluniau yn awgrymu y gallai’r rhwydwaith dysglau radar rychwantu gofod o 1 cilometr (10 cae pêl-droed) ac ymestyn dros orwelion Maes Awyr Tŷ-ddewi o bosib, os nad at Fynyddoedd y Preseli draw!

I MEWN I PARC YN ERBYN DARC





























Yn gynnar ym 1990, yn wyneb y bwriad i sefydlu gorsaf radar dros-y-gorwel debyg iawn i gynlluniau DARC heddiw, daeth trigolion lleol Tregroes, Solfach a Thŷ-ddewi at ei gilydd i greu PARC: Mudiad Sir Benfro Yn Erbyn y Radarac erbyn 1991, yn dilyn ymgyrch genedlaethol anferth a orfododd y Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher i ddiddymu’r cynllun radar, fe enillodd PARC, gan orchfygu’r rhaglen radar yn gyfangwbl.

Y newyddion da yw fod PARC yn ei ôl. Rŷn ni yma gyda chenhedlaeth newydd, pwrpas newydd, a brwydr newydd rŷn ni’n barod i’w hennill.

Yma yn Sir Benfro, rŷn ni wastad wedi bod yn bobl sy’n sefyll dros ein tir y funud y cwyd bygythiad. Fe heriwyd yWeinyddiaeth Amddiffyd (WA), trechwyd byddin yr UD, a gyda’ch help chi, fe drechwn ni DARC hefyd.

Fe safodd pobl gyda’i gilydd bryd hynny. Mae’n bryd sefyll gyda’n gilydd nawr!

Arwyddwch y deiseb yn erbyn DARC nawr!






CYFRANNWCH NAWR


























































DARC: Nid yn unig yn ddrwg i Sir Benfro. Mae’n ddrwg i Sir Bobman.

Iechyd cyhoeddus
Byddai lefelau ymbelydredd cyfunedig DARC yn gwbl anaddas ar gyfer ardaloedd preswyl Sir Benfro

Mae astudiaethau ymchwil gwyddonol yn y DU, yr UD, Rhufain a De Korea (i enwi ond ychydig) yn rhan o gasgliad o filoedd o astudiaethau sy’n dangos un peth: bod pobl sy’n byw yn agos at ffynonellau ymbelydredd amledd-radio dwys (tebyg i DARC) yn wynebu risg sylweddol a chynyddol o ganser, yn enwedig lewcemia.

Mae hyd yn oed byddin yr UD, sy’n gyfrifol am DARC, wedi gorfod cydnabod hynny, trwy eu hastudiaethau o staff sydd wedi cael canser tra’n gweithio gydag offer radar: a hefyd yr holl iawndal y mae wedi gorfod ei dalu i ddioddefwyr.

Ond megis dechrau yw hyn. Mae’r broses frwnt o adeiladu fferm radar enfawr 27-dysgl, hefyd yn bygwth difwyno a gwenwyno dŵr daear â gwerth degawdau o lygredd graddfa-filwrol, gan gynnwys radon, wraniwm a Strontiwm-90, a gladdwyd ar safle Breudeth.

A gyda’r cwmni dŵr preifat sy’n gyfrifol am ddŵr y safle wedi gorfod ymddiheuro lawer gwaith i drigolion sy’n byw yn agos at safleodd milwrol eraill y WA am lygru eu dŵr yfed, a hynny â halogion y mae’r WA yn gwrthod datgelu eu natur, gallwn fod yn glir am un peth:

Byddai radar DARC yn drychineb yn aros i ddigwydd.

Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy!

Twristiaeth, amgylchedd a’r economi
Byddai dysglau radar anferth DARC yn weladwy o bobman, gan ddifetha awyrgylch, amgylchedd a gwerth eiddo Sir Benfro yn barhaol

Paratowch i deimlo’n sâl: edrychwch ar ein lluniau-gwneud o’r hyn a wnâi 27 dysgl radar dros ardal o gilometr gyfan i orwelion Niwgwl, Solfach, Traethmawr, Penycwm, Y Garn, Trefgarn Owen, Llan-lwy a Threffynnon. Stumog yn corddi eto?

Honir y bydd DARC yn creu 100 o swyddi, ond 60 swydd fyddai yna ar unrhyw amser, a’r rheini gan fwyaf i arbenigwyr Americanaidd yn hytrach nag i bobl leol, a’r cwbl yn rhan o broses fydd yn arwain at golli 300 o swyddi lleol wrth i Breudeth gau – colled aruthrol.

Yn hytrach na cholli swyddi, mae gan PARC awgrym gwell o lawer ar gyfer y safle y byddant yn ei adael ar eu hôl. Y tro diwethaf y gadawodd y fyddin wersyll Breudeth, sefydlwyd Parc Menter Breudeth, ac mae busnes yn ffynnu yno.

Pam na ellir gwneud y gwersyll gwag yn hyb anferth i ysgogi busnesau lleol newydd, gan gynyddu ffyniant ac incwm o dwristiaeth—yn hytrach na gadael I DARC eu difetha ill dau?

Byddai‘n ffordd arall o warchod yr amrywiaeth enfawr o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion o amgylch safle Breudeth, rhai ohonynt yn brin ac yn nodedig iawn. Byddai radar DARC yn dinistrio’r cynefinoedd naturiol hyn lle maent yn byw a ffynnu fel rhan o’n cymuned a’n hecoleg leol, a’u troi’n lleiniau di-fywyd mewn byd lle mae angen i’r gwrthwyneb llwyr i ddigwydd.

Darllenwch ymlaen i weld y lluniau , a dysgu sut rŷn ni’n ymladd yn ôl!

Diogelwch Byd-eang
Diben DARC yw hybu goruchafiaeth yr UD yn y gofod. Ond mae’r rhan fwyaf o wledydd yn cytuno mai gweledigaeth sydd ar drai yw hon, o oes drefedigaethol, sy’n gwneud ein byd cyfnewidiol yn llai, nid yn fwy, diogel

Mae’r system sganio’r gofod yma yn ymgais gan Washington i’n twyllo ni yma yn Sir Benfro am wir bwrpas DARC, sef i hwyluso’r bwriad o ymosod ar loerennau gwledydd eraill yn y gofod.

Ar wahan i fod yn weithred ymosodol rhyngwladol y mae‘r rhan fwyaf o wledydd y byd yn y Cenhedloedd Unedig wedi pleidleisio yn ei erbyn, mae DARC, trwy ei fygythiad o greu llwyth o sbwriel peryglus yn y gofod, yn creu perygl unigryw.

Mae gwyddonwyr yn prysur rybuddio y gallai’r lloerennau a ddinistrir, diolch i wybodaeth dargedu a ddarperir gan DARC, arwain at adwaith cadwynol a allai greu cwmwl marwol o deilchion lloerennau mor fawr fel y byddai’n atal dynoliaeth rhag dychwelyd i’r gofod, am ddegawdau, o bosib.

Mae’r UD, sydd mor ddiglem nes cyfeirio yn ei adroddiad cwmpasu at Dŷ-ddewi ac Abertawe fel ‘y trefi agosaf’ (wir yr?), fel pe bai’n credu mai dim ond rhyw glwstwr bach o ffermydd digyswllt, dibwys sydd yma ym mro Dewi, yn hytrach nag ardal boblog ac un brif gyrchfannau twristaidd mwyaf allweddol Cymru. A rŷn ni yma i’w goleuo!

Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy!



Methu aros i weld sut mae’r ymgyrch yn mynd? Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bost!



















































EIN CEFNOGWYR




















Ni yw’r bobl rŷn ni wedi bod yn aros amdanyn nhw. Ymunwch â ni nawr!




YMUNWCH Â NI AR FACEBOOK



ARWYDDWCH Y DDEISEB YN ERBYN DARC



LOBÏWCH Y RHEINI SY’N PENDERFYNU



CYFRANNWCH AT Y GRONFA