Trychineb drwyddi draw, o bob cyfeiriad o’i gwmpas: saith ar hugain o ddysglau radar tyrog, aml-lawr dros gilometr cyfan, yng nghalon penrhyn Dewi, yn weladwy fel archoll ddofn ar y gorwel o draethau hudolus Niwgwl a Solfach, Porth Mawr, Penycwm, y Garn, Trefgarn Owen, Llan-lwy, Treffynnon, ac o bobeth a phobman rhyngddynt.
O holl syniadau Trump, mae hyn yn gadael hyd yn oed wal anorffenedig Mecsico â’i gwynt yn ei dwrn yn ceisio cystadlu.
Byddai rhwydwaith radar DARC, sy’n cynnwys 27 o ddysglau pelydredd uchel iawn 20 metr o uchder a15 metr o led, o fath sydd mor estron i Brydain fel na wyddom am enghraifft arall o'i fath yn unman ar yr ynys gyfan, yn ymestyn dros gilometr sgwâr, ac yn weladwy am gilometrau o gwmpas.
Mae’r olygfa o Niwgwl, wrth i chi yrru i mewn i un o olygfeydd traeth mwyaf eiconig Cymru (a hyd yn oed y DU), yn ddigon i droi ar stumog rhywun:
A dydy Solfach Isaf ddim ymhell ar ei ôl:
Ond byddai fferm radar DARC i'w gweld o bobman bron:




















Roeddem yn credu bod y cynlluniau radar yn wael yn y 1990au cynnar. Wnawn ni ddim dweud celwydd: rydym yn dechrau meddwl y dylai'r syniad o adeiladu aráe radar dros-y-gorwel ym mangre dwristaidd hudolus arfordir gorllewin Penfro fod wedi aros yn y 1990au, ynghyd â rhai steiliau gwallt na wnawn mo’u henwi yma!
‘Waw, am ffordd i ladd hud y dirwedd yma. Pwy benderfynodd hyn? Dwn i’m, Marge, falle rhown ni gynnig ar rywle arall tro nesa. Dyw pethe ddim fel roedden nhw yma.’
I ni, mae’n swnio’n debyg i’r hyn y gallai llawer o ymwelwyr rheolaidd (fel Homer, yn yr achos yma) sydd mewn cariad â’n tirwedd arw ac anghysbell fod yn ei feddwl wrth iddyn nhw yrru drwy’r olygfa o draeth Niwgwl, neu allan o Solfach ac ar hyd y ffordd agored, ac awel gynnes yr haf yn anghof.
A dyna’r broblem. Nid yn unig i dwristiaid, ond i bawb a allai symud yma, neu a symudodd yma yn unswydd oherwydd y dirwedd unigryw, eneidfawr, a'r holl atgofion lu a ddaeth yn ei sgil.
Yn y cyfamser, y cwbl mae DARC yn ei gynnig i’n twristiaeth, ac i werthoedd ein heiddo,, yw dim ond tro negyddol ar i lawr, ac i galon ac enaid y rhan unigryw hon o’r sir.
Stumog yn corddi eto? Arwyddwch y ddeiseb…
Ond i’r rhai ohonoch sydd am aros ar y car gwyllt, gadewch i ni edrych ar ychydig mwy o gynnig di-di-fudd byddin yr UD, ei 27 radar DARC gwrthun yn Sir Benfro.
Byddai 100 o swyddi newydd yn braf.
I’r personél milwrol arbenigol o’r UD a fyddai’n dod draw yma i fyw 24/7 ar y safle, a sy’n debygol o gael y rhan fwyaf ohonyn nhw.
A bwrw nad oedd yna chwaith 400 o bobl yn gadael Barics Cawdor i fynd i wersyll y fyddin yn Sir Fynwy.
A chan dybio y byddai’r swyddi’n para’n llawer hwy na pharhad cyfyngedig o bosib prosiect DARC.
Y drafferth yw, byddai'r swyddi i Americanwyr yn bennaf, nid i bobl leol. A byddai'r golled net mewn swyddi yn 300, sy'n golygu bod y WA yn torri swyddi, nid yn rhoi rhai newydd i ni. A'r ffaith na fyddent efallai hyd yn oed yn para, beth bynnag.
Nid yw'r niferoedd gwneud synnwyr. Nid yw'r ffeithiau'n gwneud synnwyr. Yr unig beth pendant yw nifer y twristiaid a fydd yn meddwl ein bod wedi gwneud y penderfyniad economaidd ac esthetig gwaethaf yn ein holl hanes.
Mae'n wir: dywedir y bydd holl staff canolfan Breudeth yn gadael erbyn 2028. Ond dyma un weledigaeth o'r hyn y gellid ei wneud ‘r gwersyll sydd gymaint yn well, i bob un ohonom, na dinistrio’n gorwel, ein hiechyd cyhoeddus a'n twristiaeth.
Crëwyd Parc Menter Breudeth pan adawodd Llynges yr UD ganolfan byddin Breudeth, gan dorri swyddi lleol yn yr un modd. Prynwyd awyrendy mawr iawn a sawl adeilad ar ymyl y ganolfan gan ddatblygwr eiddo, a chawsant eu rhoi i gymuned leol penrhyn Dewi.
A dyna'n union lle dechreuodd pethau edrych yn addawol.
Mewn cwta flwyddyn, mae symudwyr ac ysgogwyr Sir Benfro ei hun wedi bod yn dangos i weddill y sir beth yn union sy’n bosib os oes gennych chi weledigaeth, os cefnogwch eich hun, a chychwyn busnes lleol newydd sbon a’i wreiddiau yn Sir Benfro.
Agorodd dau fusnes newydd (y cyntaf o'u bath yn yr ardal)—Stiwdio Celfyddyd Gain Sarah Jane Brown a Bistro Bites, yn ddiweddar. Mae’r gwaith datblygu ar y safle yn mynd rhagddo ar garlam, gydag adeilad newydd ar y gweill, yr awyrendy’n prysur ehangu i ddatblygu unedau aml-ystafell yn barod ar gyfer busnesau newydd, a busnesau sefydledig yn goroesi pandemig a dod drwyddi i ddangos i ni i gyd sut y mae’i gwneud hi.
Wyddech chi bod gan benrhyn Dewi ei adwerthwr ar-lein mawr, hynod lwyddiannus ei hun, yn gwerthu cardiau ac anrhegion ledled y byd? Cafodd The Crafty Giraffe, a’i weithdy a’i swyddfeydd i gyd ym Mharc Menter Breudeth, flwyddyn enfawr yn ystod y pandemig Covid yn 2020, lle bu’r staff yn gweithio nos a dydd i gwrdd â her ton anferth o alw am nwyddau Nadolig.
Beth pe baem, yn lle DARC, yn defnyddio’r seilwaith a adawyd ar ôl gan wersyll y WA i ehangu’r seren newydd hon o barc busnes, a chreu canolbwynt enfawr, ag arian newydd, ar gyfer busnesau newydd Sir Benfro?
Arian i ddwylo'r gymuned leol. Uchelgais, gofod datblygu ar gyfer tai newydd, lle i fusnesau newydd ddatblygu—efallai mai dyma’r union beth sydd ei angen ar ein rhan ni o’r sir i adfywio ei heconomi, cadw ein pobl iau yma (yn barod hefyd i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar y to hŷn), ac arwain y ffordd mewn modd newydd cyffrous i'r dyfodol—i gyd yng nghysur ein iard gefn ein hunain.
Rydym yn siwr y gellwch chi ddychmygu’r holl beth eich hun. Beth am ganolfan awyr-blymio dan-do? Cwrs beic modur o amgylch strwythur y llwybrau glanio?
Beth petai gan y degau o filoedd o dwristiaid sy'n ymweld bob blwyddyn eu parc thema eu hunain i fynd iddo?
Ac wrth gwrs, gyda chynlluniau fel hyn ar gyfer gwersyll Breudeth a gaiff ei ddatgomisiynu'n fuan, gallwch gymryd eich 100 o swyddi-nad-ydyn-nhw’n-swyddi-go-iawn, a'u lluosi, cyn i chi ddod yn agos at nifer y swyddi cwbl leol o ansawdd uchel y gallai Parc Menter Breudeth eu cynnig i'n cymuned ar ôl ehangu.
I fod yn onest, i’r rhai ohonom sy’n rhedeg hyn sy’n ymgyrchwyr profiadol, nid dyma’r ddadl fwyaf anodd i ni orfod ei gwneud erioed dros ymgyrch.
Ond nid dyna’i diwedd hi. Oblegid, er cymaint y mae’n ffyniant fel bodau dynol o bwys, rydym yn rhannu byd a thirwedd gydag amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd anifeiliaid a phlanhigion rydym yn llwyr ddibynnol arnynt i oroesi—rheswm arall pam y buasai’n well pe bai ffantasi Star Wars drych wal Donald Trump wedi aros yn ei ben, ynghyd â'i holl syniadau pen-mawr eraill.
Bu’n rhaid i hyd yn oed adroddiad cwmpasu milwrol yr UD a’r WA gyfaddef hynny: mae’r ardal ecolegol yr effeithid arni gan y syniad amhosib ei wyrddgalchu o adeiladu 27 dysgl radar enfawr cyfuwch ag adeilad aml-lawr, yn ‘ardal eithriadol o sensitif o ran effeithiau posibl ar dderbynyddion ecolegol'.1
Yn gyntaf, yr ystlumod, rhywogaeth warchodedig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, y câi eu llwybrau hedfan ar draws y safle eu difetha gan oleuni liw nos, gwres ac ymbelydredd fertigol hynod anniogel o ddysglau’r rhwydwaith radar ddiddiwedd. Onid yw eu cynefin o bwys i fyddin yr UD?
Yna, y boblogaeth enfawr o ehedyddion ar y safle, ‘a ystyrir y mwyaf yng Nghymru’ gan yr adroddiad. Onid yw’r ffaith y gallai poblogaeth ehedyddion fwyaf ein gwlad wynebu llygredd a halogion posibl yn y ddaear, gan eu gyrru i ffwrdd o’u cynefin, o bwys i fyddin yr UD?
Beth am y frân goesgoch, aderyn ‘nas ceir ond mewn rhannau penodol iawn o'r DU’:2 onid yw effeithiau gorlif dŵr o waith adeiladu trwm, llwch, ac o bosib coll cynefin y rhywogaeth hynod brin hon o bwys i fyddin yr UD?
Mae’r cynefinoedd lle maent yn byw ac yn fforio, sy’n ffurfio cymeriad unigryw a hudolus ein rhan ni o Sir Benfro, yn anhygoel o gyfoethog ac amrywiol. O fewn 5 km i wersyll Breudeth, ceir 386 cofnod o 94 rhywogaeth ddi-asgwrn-cefn nodedig, 45 o amffibiaid, 97 o ymlusgiaid, 1,054 o gofnodion unigol o 66 rhywogaeth adar flaenoriaethol, 223 cofnod o ystlumod, 94 o foch daear, 21 dyfrgi, a chofnodwyd sgwarnogod, y ddraenog Ewropeaidd, y llygoden gynhaeaf Ewrasiaidd, y carlwm, y wenci a’r ffwlbart3—oll o fewn ac o gwmpas 'cynefinoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, yn enwedig coetir gwernog gwlyb yn ogystal â rhostir a glaswelltir gwlyb.'4
Fe effeithid ar y cwbl o’r rhain.
Faint o bŵer dybiech chi sydd ei angen i redeg 27 dysgl gorsaf radar mor bwerus ac anferth fel na welwyd dim byd tebyg yn y DU erioed, heb sôn am mewn ardal breswyl? Byddech yn gywir pe baech yn dyfalu llawer.
Ond faint o effaith carbon sydd gan rywbeth sy'n gorfod gweithredu 24/7, hyd yn oed pan fydd y grid cenedlaethol yn disgyn? Ystyriwch yn gyntaf y ffaith y dywed yr adroddiad cwmpasu yr ‘ystyrir y bydd cynhyrchu pŵer wrth gefn yn debygol.’
Ac yna ystyriwch y ffaith y dywed y byddai’n rhaid i’r fferm danwydd gysylltiedig yn unig fod â chapasiti syfrdanol o ‘oddeutu 160,000 galwyn o danwydd diesel, mewn tanciau bwnd-dwbl uwchlaw’r ddaear.’5
Beth am gipolwg sydyn ar eu record? Mae’r stwff yma’n waeth na ffuglen.
Ymddengys bod Northrop Grumman, y cwmni arfau o'r UD sy'n gwneud DARC, yn gadael llu o gyhuddiadau o esgeulustod o’i ôl ble bynnag yr â. Er enghraifft, canfu Cyfarwyddwr, Prawf a Gwerthuso Gweithredol nad oedd y System Rheoli Brwydr Amddiffyn Awyrol a Thaflegrau (IBCS) y buasai’n gweithio arni yn 2012 ‘yn aeddfed nac yn sefydlog.’6 Neu’r tro y cafod ei erlyn am roi awyrennau diffygiol i'r Llynges yn fwriadol, cyhuddiad mor gadarn ei sail nes i’r cwmni orfod gwario $325 miliwn ar y setliad ail-fwyaf yn ymwneud â thwyll contractwr amddiffyn erioed.7 Neu’r tro arall hwnnw yr ymchwiliwyd iddo gan Lywodraeth yr UD mewn ymchwiliad i dwyll gwerth $100 miliwn.8
A beth am Stantec ac Ove Arup, cwmnïau a ddarparodd ddata ar gyfer adroddiad cwmpasu Sweco am DARC yn Sir Benfro ar gyfer byddin yr UD a’r WA. Cafodd Stantec ei siwio gan Ddinas Winnipeg am yr hyn yr honnai’r Ddinas ei fod yn waith peirianyddol 'esgeulus' yn nyluniad Pont Sturgeon Creek, lle bu i wal bridd a oedd i gynnal strwythur y bont ac arwyneb y ffordd ar lan yr afon ddymchwel yn llwyr..9 Neu’r ymateb ffyrnig ar ôl iddo chwarae rhan ddadleuol mewn datblygu safle llongau mordaith mawr wrth ymyl y gymuned ail-hynaf yn British Columbia.10 Yn y cyfamser, cyhuddwyd Ove Arup mewn llys barn o esgeulustod ar ôl methu canfod a nodi llwyth o asbestos mewn prosiect adfywio.11
Ac mae hyn oll cyn i ni ddod at fyddin yr UD ei hun, sydd prin ag arni angen cyflwyniad. 800 o ymgyrchoedd milwrol gweithredol dan arweiniad yr UD ledled y byd a dim heddwch na diogelwch yn yr un ohonyn nhw hyd yma,12 ac, yn ôl dyfarniad yr Hâg, hil-laddiad tra thebygol ar y gweill ym Mhalestina,13 y talwyd amdano bron yn gyfan gwbl gan arian yr UD14—a fu yna erioed ymerodraeth sydd wedi malio llai am ganlyniadau ei gweithredoedd i bobl leol, unrhyw le yn y byd?
Ceisiwch feddwl am lawer mwy. Byddwn yn disgwyl.
Cyflogi cwmnïau barus a gyhuddir o fod yn ffwrdd-â-hi, cael canlyniadau ffwrdd-â-hi yn y pen draw—canlyniadau sydd, os mai’r dyma’r norm, yn ôl cofnodion y cwmnïau, yn dangos pob arwydd eu bod wedi hen arfer â sathru ar y neb sy'n gadael iddynt ddianc yn ddi-gosb.
Os nad ydych wedi darllen eto am effeithiau dinistriol DARC ar iechyd y cyhoedd, cymerwch funud neu ddwy i wneud—os ydych chi wedi, dyma gip ar beth yn union yw DARC, pam mae byddin yr UD yn meddwl bod angen iddo fodoli unrhyw le, a pham y mae’n brosiect mor anniogel o safbwynt diogelwch byd-eang fel y byddai’n gwneud Sir Benfro a llywodraeth y DU yn rhan o gynllwyn i dorri’r gyfraith dro ar ôl tro.
Ond cyn hynny, os ydych yn cytuno â ni mai’r peth olaf sydd ei angen ar dwristiaeth Sir Benfro yw rhywbeth a fydd yn crebachu ein heconomi heb fod o unrhyw fudd i ni, a bod amgylcheddau lleol a byd-eang o bwys, i ni ein hunain ac i’r cenedlaethau i ddod, mae yna un ffordd i ymladd yn ôl. A dyna'n union sut yr enillwn ni.





