Select your preferred language…
Select your preferred language…


EIN HANES







Fis Ebrill 1991, gwelsom ni yn PARC (ymgyrch Penfro Yn Erbyn y Radar) y datganiad i'r wasg y bydd pob ymgyrch leol yn breuddwydio amdano: roeddem wedi trechu'r radar dros-y-gorwel, a gynllunid ar gyfer hen Faes Awyr Tŷ-ddewi, ger Barics Cawdor y Weinyddiaeth Amddiffyn (WA).

Dilynodd PARC, un o ymgyrchoedd lleol mwyaf angerddol Prydain yn y 90au, fformiwla glasurol oesol: ymgyrch lawr-gwlad a roddai bobl yn gyntaf, gyda stori Dafydd (neu Ddewi, hwyrach) yn erbyn Goliath a allai danio dychymyg cynulleidfaoedd am filltiroedd o gwmpas.

Wrth i benrhyn bach Dewi ar arfordir eithaf Sir Benfro ymwregysu ar gyfer yr ail rownd, beth achosodd i’r ymgyrch wreiddiol fod yn llwyddiant mor ysgubol, a threchu’r radar?

Aelodau gwreiddiol PARC, sy'n edrych fel promo ar gyfer band roc cynnar

Dechreuodd y stori mewn cyfarfod rhwng pedair aelwyd yn unig yn Nhre-groes, pentref bychan a saif yn union o flaen yr hen faes awyr lle’r oedd y WA yn bwriadu adeiladu’r OTHR (radar dros-y-gorwel).

Ond o ble y clywodd y trigolion dewr hyn y newyddion am eu radar? Mae prosiectau o'r fath, nid yn annhebyg i heddiw, yn aml yn cael eu sleifio allan heb lawer o ffanffer. Ym 1989 mewn papur newydd bach yng Nghaeredin y torrodd y newyddion am y radar arfaethedig, a honnodd yr AS Ceidwadol lleol, Nicholas Bennett, na wyddai ddim oll am y cynnig, am fod y WA, meddai, wedi hysbysu’r AS anghywir amdano. Ie, siŵr, Nick.

Gan ymffurfio o gwmpas dawn sgrifennu aruthrol un nofelydd gwych, y diweddar Rosemary Hawley-Jarman o Dre-groes, dyma fwrw ati â’r gorchwyl maith o sgrifennu llythyron at ASau.

Ond nid dim ond i lond dwrn o rai lleol. Gan arddangos yr uchelgais a fyddai’n nodweddu’r ymgyrch, dechreuodd PARC trwy gysylltu—â llaw—â phob AS yn y Deyrnas Unedig, cannoedd o gynghorwyr lleol, clerigwyr, gwyddonwyr a hyd yn oed seneddwyr yn yr UD.

Wrth i’r gair lleol ledaenu, galwyd y cyntaf o ddau gyfarfod cyhoeddus enwog yn Neuadd Goffa Solfach, lle traddododd Roger Coghill, gwyddonydd a gomisiynwyd gan PARC i ymchwilio i effaith ymbelydrol bosibl y casgliad anferth o dyrau radar dros-y-gorwel 135 troedfedd o uchder, araith a oedd yn foment fawr, yn ôl ymgyrchwyr PARC.

Argraff artist o’r aráe radar arfaethedig wreiddiol

Pan glywodd trigolion lleol am lefel yr ymbelydredd, ac am y ffaith y byddai'n rhaid symud llawer o'r boblogaeth o’r ardal o amgylch er mwyn creu cylchfa ddiogelwch ddigonol, ni chodwyd yr un llais yn y neuadd o blaid.

Gan wynebu pwysau a oedd yn prysur gynyddu, gorfodwyd AS Sir Benfro, Nicholas Bennett, i godi cwestiynau yn y Senedd. Trefnodd ail gyfarfod gyda thrigolion lleol, gyda’r prif siaradwr Alan Clark (y Gweinidog Caffael Amddiffyn), ac un a fyddai’n mynd yn chwedlonol – ond nid am y rhesymau a obeithiai!

Ag yntau wedi gobeithio tawelu’r gymuned leol, er gofid i Bennett, wrth i’r Gweinidog crynedig gerdded i mewn, gwelodd gymuned gyfan, oll yn dal placardiau ‘NA’, yn rhythu arno mewn tawelwch perffaith nes iddo eistedd yn ei sedd yn nhu blaen Neuadd y Ddinas, Tŷ-ddewi:

Y cyfarfod ‘DIM radar’ hanesyddol

Ni helpodd awgrym y Gweinidog y gellid plannu ychydig o goed i guddio’r tyrau radar 135 tr. o uchder, wrth i’r ystafell ffrwydro o chwerthin—ac yn ddoniol ddigon, fel clocwaith, ceisiodd y WA ddefnyddio’r un awgrym dwl y gallai rhywfaint o sgrinio gan goed helpu i guddio’i nod wrthun o fferm radar yn 2024—ar dud. 85 o'i adroddiad cwmpasu ei hun!

Roedd yr ysbryd ymhlith y bobl yn dechrau tanio erbyn mis Mai 1990, effaith heintus cymuned yn dod at ei gilydd a gwendid dadleuon tenau-fel-papur y WA—a’r mis hwnnw, cafwyd cychwyn byrlymus—ac annisgwyl—i’r ymdrech i godi arian.

Bu ‘Roc yn Erbyn Radar’ yn Neuadd Bentre Mathri, Tŵr-y-Felin yn Nhŷ-ddewi, a Gwesty’r County yn Hwlffordd yn ysgwyd waliau. Denodd arwerthiant cist-car enfawr ar gyfer PARC yn Nhre-groes ddwsinau i’r pentre bychan, bu ffeiriau sborion lu a choffi a chacennau yn Neuadd y Ddinas, Tŷ-ddewi, a bu preswylwyr ar deithiau cerdded noddedig maith ar hyd Ffos y Mynach…

Posteri PARC

Un o'r syniadau mwya gwallgo, a ysbrydolwyd gan Awstraliaid, oedd ras gychod afon sych yn Nhre-groes, sef grŵp mawr o oedolion, mewn gwisg ffansi lawn, yn ceisio ffitio i mewn i gychod cardfwrdd dau-berson, a rhedeg o amgylch maes awyr milwrol segur mor gyflym ag y gallent, heb faglu. Doedd PARC ddim yn siŵr iawn beth oedd barn y ficer i ddechrau, ond erbyn y diwedd, yn ôl pob sôn, ni allent hwythau ei atal!

Y 'Goodship Lollypop', ar y dde, yn codi hwyliau

Filltiroedd lawer i ffwrdd o Sir Benfro ac yn ystod oriau’r cyfnos yn Llundain, fodd bynnag, gellid gweld AS Sir Benfro Nicholas Bennett, mewn sesiwn hwyr y nos yn Nhŷ'r Cyffredin, ymhell, fel y credai, o olwg ei etholwyr, fel petai'n cefnogi’r radar ger bron y Senedd—yn gwbl groes i'r oslef amhendant a diduedd roedd wedi gofalu ei defnyddio yn nhudalennau'r wasg leol.

Ni wyddai, fodd bynnag, fod PARC wedi troi lan yn Llundain y diwrnod hwnnw – ac roedden nhw’n gwrando ar bob gair.

Yn y papur lleol, y Western Telegraph, a lysenwyd gan PARC yn ‘The Radar Times,’ clywodd y sir adroddiad deifiol ar ragrith Bennett, yn yr hyn a fyddai’n profi i fod yn drobwynt mawr iddo o ran ei boblogrwydd yng nghanol mater a oedd yn nes ac yn nes at galonnau pobl Sir Benfro.

Dechreuodd yr un pwysau ddod i’r amlwg mewn digwyddiad mawr, a drefnwyd gan Blaid Cymru, lle bu gorymdaith a rali o 2000 o bobl, yn cynnwys rhai o bob rhan o Gymru, o Gadeirlan Tŷ-ddewi (ar ôl bendith yng Nghapel y Drindod) i safle’r radar arfaethedig ar y maes awyr. Agorwyd y rali gan neb llai na’r gwladgarwr enwog Dafydd Iwan yn canu ‘Mae Hen Wlad Fy Nhadau’, gŵr sydd bellach yn adnabyddus ymhlith y cenedlaethau iau am gyfansoddi’r hyn sydd bellach yn anthem chwaraeon swyddogol Cymru, Yma o Hydwe are still here, yn wir, a llais Dafydd gyda ni!

Llun: @WXM_Lager

Siaradodd Dr Dafydd Elis Thomas, Llywydd y Blaid, a Nick Ainger, cynghorydd ar y pryd—y dyn a fyddai, ac nid fel cyd-ddigwyddiad, yn mynd yn AS Llafur dros Sir Benfro yn ddiweddarach, efallai ar sail cryfder ei safiad—yn y rali enfawr, a bu ymchwydd o hyder.

Roedd ymdrechion ysgrifenyddol cynnar PARC yn dechrau talu ar eu canfed, wrth i newyddion am yr ymgyrch ledaenu, gan gynyddu’r pwysau ar y rhai oedd yn penderfynu ar yr un pryd. Cawsai PARC negeseuon o gefnogaeth gan amrywiaeth enfawr o ffynonellau, yn cynnwys Neil Kinnock, Arweinydd yr Wrthblaid; tri AS Ewro; Cyngor Diogelu Cymru Wledig; Cynghorau Dyfed a Phreseli; Cyngor Sir Morgannwg Ganol; Cynghorau Tref Hwlffordd, Abergwaun ac Wdig; CND Cymru; Cyfeillion y Ddaear; Fforwm Ardaloedd Di-niwclear Cymru; Cymdeithas Gymreig Paris; Cymdeithas y Capeli Cymreig; Archesgob Cymru; Esgob Llanelwy; Esgob Bangor; Esgob Caersallog; pum aelod o Dŷ'r Arglwyddi; 30 AS; 7 Cyngor Cymuned lleol; Cyngor y Parciau Cenedlaethol; a Chymdeithas Twristiaeth Penrhyn Dewi.

Roedd yn gyfnod heb fod yn hir wedi tranc y Rhyfel Oer, wrth gwrs, cyfnod o ystumio gan archbwerau milwrol y byd ar y pryd. Dangosodd oferedd y rhyfel-na-fu-erioed i arweinwyr nad oedd dim i'w ennill trwy wario arian nad oedd gan y naill ochr na'r llall ar arfau na fyddai'r naill ochr na'r llall byth yn credu ei fod o les iddynt eu defnyddio.

Gorsaf radar olrhain yn Krasnoyarsk yn ne Siberia oedd un o’r cyntaf i gael ei datgymalu ym mis Mai 1990 fel arwydd o heddwch, cyn uwchgynhadledd a fyddai’n dod gyda’r Arlywydd Bush o’r Unol Daleithau.

Rydym ni yn PARC, wrth gwrs, yn gobeithio y gall ein harweinwyr weld bod hanes yn profi nad oes dim oll ynglŷn ag oferedd a gwastraff arian trethdalwyr wrth fynd ar drywydd rhyfeloedd nad oes neb yn bwriadu eu cychwyn wedi newid yn y tri degawd diwethaf.

Bu artistiaid fel John Knapp-Fisher wrthi ar y maes awyr yn peintio’r olygfa o fynyddoedd eiconig Carn Penberi a Charn Llidi er mwyn codi arian i PARC fel protest. Trefnodd offeiriaid bererindod holl-enwadol o eglwys Tre-groes ar hyd Llwybr y Pererinion i Gadeirlan Tŷ-ddewi. Daeth y gymuned ffermio â thractor i dynnu fflôt PARC o’r Clwb Rygbi ar gyfer carnifal Tŷ-ddewi, gyda’r holl bobl ifanc yn gwisgo crysau-t eiconig a nwyddau PARC.

Artistiaid wrthi ar gyfer yr arwerthiant celf gwrth-radar

Roedd braw Bennett, wrth i ddeiseb roedd mwy nag 20,000 wedi ei llofnodi â llaw mewn siopau lleol ym Mhenryn Dewi gyrraedd y llywodraeth, yn troi'n banig yn gyflymach a chyflymach.

Wrth i’w blaid sgrialu i wrthsefyll y lefel annisgwyl o wrthwynebiad gan yr hyn yr ymddengys i’r UD a’r WA ei gamgymryd am ddim mwy na rhyw ranbarth arfordirol gwag a chysglyd, ymwelodd y Prif Weinidog Margaret Thatcher, mewn enbydrwydd, â Hwlffordd er mwyn ceisio atal y gwaedlif, wrth i gefnogaeth Bennett ddisgyn fel plwm. Fe’i dilynwyd hi ddyddiau wedyn gan y Gweinidog ar gyfer y luoedd Arfog, Archie Hamilton.

Dywedodd Hamilton, nad oedd â’r ddawn i ‘ddarllen yr ystafell’ na theimladau’r cyhoedd yn Sir Benfro, wrth wynebu’r cyfryngau teledu, fod y radar dros-y-gorwel arfaethedig ‘yn gorfod mynd i rywle’, ac na fyddai’r safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro 'yn llawn mor ofnadwy ag y mae pobl yn ei honni.’

Dysgodd llywodraeth Thatcher y diwrnod hwnnw, i beidio ag anfon hen Etoniad i wneud gwaith dyn lleol – ond efallai’n fwy perthnasol yn achos pobl herfeiddiol Sir Benfro, i beidio byth ag anfon gwleidydd i wneud gwaith gwleidydd chwaith!

Gwers y byddai’n AS presennol Henry Tuffnell, os yw’n rhoi gwerth ar ei swydd yntau yng ngoleuni’r gwersi a gynigir gan Bennett a aeth ymlaen i golli’i sedd yn Sir Benfro, yn ddoeth iawn i’w chadw mewn cof.

Dychan cynnar. Gall holl drigolion Parciau Cenedlaethol uniaethu â hyn!

Yn y cyfamser, roedd yr ymgyrch, trwy aml ymdrechion syml ond parhaus a phenderfynol PARC, wedi mynd yn rhyngwladol. Erbyn Ionawr 1991 roedd Americanwyr â chysylltiadau yn y Gyngres yn lobïo. Roedd Esgob Massachusetts wedi sgrifennu llythyr cryf o gefnogaeth at Archesgob Cymru, a ddilynwyd gan lythyr cydymdeimladol gan y cyngreswr Martin Sabo, a dyfynwyd cyswllt yn Adran Cysylltiadau Cyhoeddus y WA yn dweud, ‘If the yanks pull out, the thing falls.’

Ac ar ôl gwrthod hyd yn oed caniatáu i’r EIA (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) weld golau ddydd, dyma’r Gweinidog dros Gaffael Amddiffyn, ar y 26ain Ebrill 1991, ag yntau wedi ymlâdd ar ôl blwyddyn o bwysau di-ildio gan y bobl, gwleidyddion o bob lliw a rhannau cynyddol o’r cyfryngau, yn rhyddhau datganiad i'r wasg yn datgan, mewn perthynas ag OTHR arfaethedig Tŷ-ddewi, 'buom yn adolygu ein hoffer, a phenderfynwyd peidio â bwrw ymlaen â'r prosiect hwn.'

Ar ôl i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, awdurdod lleol y mae ei awdurdodaeth yn amgylchynu’r safle DARC arfaethedig, ddweud mewn llythyr a anfonwyd at PARC ar y 9fed Mai 1991 eu bod yn ‘croesawu’r penderfyniad’, anrhydeddodd y Parciau PARC â gwobr am ei ran mewn diogelu iechyd, tirwedd, twristiaeth, amgylchedd a diogelwch arfordir Sir Benfro.

Gobeithio y bydd yr Awdurdod, y Cyngor, ASau o bob lliw, grwpiau ymgyrchu, ac yn bennaf oll, pobl o bob cred wleidyddol, hil, crefydd, rhyw, rhywedd, lefel gallu ac oedran yn cefnogi PARC unwaith eto, i weld diwedd ar y radar—a’r tro yma am byth.

Ymunwch â ni yn PARC yn erbyn DARC. Fe wnawn ni DARC yn hen hanes – unwaith eto!

Arwyddwch y ddeiseb yn erbyn DARC nawr!






CYFRANNWCH NAWR


























































YMUNWCH Â NI AR FACEBOOK



ARWYDDWCH Y DDEISEB YN ERBYN DARC



LOBÏWCH Y RHEINI SY’N PENDERFYNU



CYFRANNWCH AT Y GRONFA