Select your preferred language…
Select your preferred language…









Gorsaf filwrol a ddylai, os oes rhaid ei chael, fod ar ynys anghysbell, nid yn un o harddfannau CymruGorsaf filwrol a ddylai, os oes rhaid ei chael, fod ar ynys anghysbell, nid yn un o harddfannau Cymru




































Prin fod angen athrylith i gadarnhau y byddai fferm radar enfawr sy’n gallu sganio traean o bob milimedr sgwâr o ofod o amgylch y ddaear yn un o’r prosiectau mwyaf ymbelydrol i gael ei leoli ar dir Prydeinig erioed.

Dysglau darlledu teledu, antenae trosglwyddo radio, hyd yn oed rhai dyfeisiau llaw diwydiannol arbenigol: dim ond rhai o'r ffynonellau ymbelydredd amledd-radio y mae astudiaethau dirifedi degawdau o hyd wedi profi bod cydberthynas rhyngddynt â lefelau uwch o achosion o ganser yn yr ardaloedd preswyl agosaf na mewn ardaloedd cymharol, yn cynnwys lewcemia (canser y gwaed) a mathau o ganser yr ymennydd yn fwyaf cyffredin.

Ond ffatri ymbelydredd amledd-radio 27-dysgl fel radar DARC? Cymerwch yr astudiaethau hynny, eu lluosi o sawl ffactor, ac rydych yn dechrau nesáu at lefel yr effeithiau ar iechyd cyhoeddus sydd dan sylw wrth i ni sôn am DARC.

Mae'r wyddoniaeth yn glir fel grisial

Mae degawdau o ymchwil yn dangos hyn: ni ellir gwadu’r cyfraddau uwch o wahanol fathau o ganser a chymhlethdodau iechyd eraill a brofir gan bobl sy’n byw yn yr ardal agosaf at rai gorsafoedd radar hynod bwerus, â gallu darlledu pell-gyrhaeddol.

Mae trosglwyddyddion radio FM a theledu sydd â dwysedd pŵer uchel yn enghraifft amlwg. Ystyriwch y trosglwyddydd radio a theledu pŵer-uchel yn Sutton Coldfield, lle dangoswyd bod cyfradd lewcemia mewn oedolion o fewn 2 gilometr i'r radar 1.8 gwaith yn uwch na chyfradd y boblogaeth yn gyffredinol. Dangosodd yr astudiaeth ‘ostyngiad ystadegol arwyddocaol mewn risg gyda chynnydd mewn pellter oddi wrth yr antena.’1

Neu ystyriwch astudiaeth Michelozzi et al.2 o orsaf radio'r Fatican, lle roedd oedolion o fewn 2 km i antena'r orsaf yn arddangos cyfradd farwolaeth safonedig o 1.8 ar gyfer lewcemia—bod oedolion 1.8 gwaith yn fwy tebygol o farw o lewcemia ym mharth effaith ymbelydrol yr antena nag yn yr ardaloedd o’i gwmpas. Neu gweler y ffordd y dangosodd dwy astudiaeth helaeth Ha et al. mewn 11 ardal weinyddol yng Ngweriniaeth Corea fod pobl 10 oed neu hŷn sy’n byw o fewn 2 km i antena trosglwyddydd AM pŵer-uchel 1.8 gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu canser na rhai’n byw ger trosglwyddyddion pŵer-is.3 Neu beth am astudiaeth rheoli-achosion Mascarinec et al. sy’n dangos bod plant ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu lewcemia ger tyrau radio yn Hawaii?4

Ffynonellau ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio yw’r rhain, ond nid y nhw yw'r rhai mwyaf pwerus.

Ond nid system antenae teledu neu radio FM mo DARC, ond peth gwahanol, yntê?

Ydy: mae DARC yn wahanol. Mae’n debygol o fod yn rhyw bum gwaith o leiaf yn fwy peryglus i iechyd pobl na hyd yn oed yr antenae uchod.

Mae DARC, fferm radar sy'n cynnwys un ar hugain o ddysglau derbyn radar 15 metr o led, 20 metr o uchder, a chwe dysgl drosglwyddo arall 15 metr o led, 20 metr o uchder, yn gallu canfod gwrthrychau maint pêl-droed yn y gofod hyd at uchder o tua 36,000 cilometr,5 sy’n golygu ei bod yn system y gellir yn rhesymol dybio ei bod yn llawer nes at gategori mwy cyfarwydd i ni: systemau radar tywydd.

A systemau radar tywydd?

Fel y mae'n digwydd mae eu lefelau amlygiad uchaf nodweddiadol bum gwaith yn fwy pwerus na'r antenae nodweddiadol teledu a radio FM mwyaf pwerus.6 Mae hyn oll yn ôl adroddiad a gomisiynwyd yn annibynnol gan Asiantaeth Diogelu Iechyd llywodraeth y DU ei hun, Health Effects from Radiofrequency Electromagnetic Fields.

Mae’r systemau radar tywydd y byddai DARC yn debyg iddynt, yn ôl yr adroddiad, ‘fel arfer wedi’u gosod ar dyrau uchel wedi’u ffensio’n ddiogel … ymhell o ardaloedd preswyl [ein pwyslais ni].’7

Ceisiwch ddyfalu. Yn eich barn chi, pa mor bell yw canolfannau poblogaeth maes carafanau Park Hall a threflannau allweddol eraill yng nghylch Breudeth o safle radar arfaethedig Barics Cawdor?

Cywir. Rhyw 0.0 cilomedr.

Am system radar mor anhygoel o bwerus, ac mor ddigynsail yng ngwledydd poblog iawn Prydain nes ei fod yn ofyniad statudol bod yn rhaid ffitio goleuadau gochel ar bob dysgl radar i atal bodau dynol rhag mynd yn agos iddi pan fo’n gweithredu, dim ond megis cychwyn yw pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n disgrifio DARC fel peth ‘unigryw i Brydain'8.

Ond os gall ymbelydredd AR amledd-uchel fod mor beryglus, oni fyddai byddin yr UD wedi cyfaddef hynny erbyn hyn?

Wel, dyna'n union wnaeth y Pentagon.

Datgelodd hunan-ymchwiliad gan asiantaeth amddiffyn yr UD fod peilotiaid milwrol a chriwiau daear sy’n gweithredu'n agos iawn at yr hyn a ddisgrifir gan y Chicago Sun Times fel 'systemau radar enfawr ar fyrddau llongau lle bydd [awyrennau] yn glanio' â chyfraddau canser 24% yn uwch na'r boblogaeth gyffredinol, yn cynnwys cyfradd 87% yn uwch o felanoma, 39% yn uwch o ganser y thyroid, 16% yn uwch o ganser y prostad ac 16% yn uwch o ganser y fron.9

Hynny wedi i gwmnïau milwrol UD, fel yr un sy'n ceisio adeiladu DARC, gael eu gorfodi i setlo achos cyfreithiol10 gan filwyr o Ddwyrain yr Almaen a ddioddefodd salwch ymbelydredd ac yn y pen draw canser o achos pelydrau-X parasitig ar ôl gweithio'n agos at radar milwrol yn yr Almaen.

Ac ar ôl i Adran Materion Cyn-filwyr yr UD gydnabod yn weithredol yn 2010 y gallai personél sy'n gweithio gyda gorsafoedd radar LORAN (Mordwyaeth Hirbell) efallai fod wedi dioddef ymbelydredd pelydr-X (math o ymbelydredd sy’n ïoneiddio y gwyddys ei fod yn gallu i achosi canser) o'r tiwbiau gwactod foltedd-uchel yn y radar.11

… Ac ar ôl astudiaeth achosion-reoledig ymhlith personél Awyrlu’r UD a ganfu fod risg uwch o ganser yr ymennydd ymhlith personél a fu’n cynnal neu’n atgyweirio offer radio-amledd neu offer sy’n allyrru microdonnau.12

Felly. Gellir disgwyl i DARC gynhyrchu lefelau gwallgo o ymbelydredd am fferm radar mor enfawr mewn lleoliad preswyl.

Ar y pwynt hwn, o ystyried peth o’r dystiolaeth, gellid maddau i chi am holi pam na wnaed mwy i fynd i’r afael â pheryglon lefelau o ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio ar y boblogaeth leol—cywir?

Dyfodiad yr WHO

Na, ysywaeth, nid y band hoffus â gwalltiau'r 70au y treuliodd eich tad ei ieuenctid yn chwarae gitâr awyr i’w drac, Baba O'Riley.

Yn hytrach, y World Health Organisation (WHO), prif ffynhonnell llawer o'r dadleuon a'r data a ddefnyddir gan lawer o gefnogwyr prosiectau fel DARC, sydd â barn bur hallt, fe sylwch os darllenwch ei ganllawiau, am wyddonwyr ymchwil sy'n crybwyll y corff cynyddol o dystiolaeth ar bwnc peryglon ymbelydredd i iechyd y cyhoedd. Hallt iawn, mewn gwirionedd.

Mae'n wir y gall fod yn anodd cynhyrchu tystiolaeth gyson o effeithiau ffynonellau ymbelydredd fel radar ar iechyd, pan fo astudiaethau o'r fath yn cymryd cyfnodau hwy o amser, gydag angen profi amodau mewn amgylcheddau bob-dydd cymhleth.

Ac eto, mae'r gymuned ymchwil o wyddonwyr meddygol ar lawr gwlad sydd hyd yn hyn wedi profi dro ar ôl tro enghreifftiau o effeithiau ymbelydredd AR ar iechyd rhai poblogaethau preswyl risg-uwch—enghreifftiau nad oes gan WHO nemor ddim i'w ddweud mewn ymateb—wedi sylwi ar rywbeth, dros y degawdau diwethaf, ynglyn â’r Grŵp Craidd sy'n gyfrifol am adran ymchwilio'r WHO ar gyfer ymbelydredd meysydd electromagnetig (EMF).

Ydych, rydych yn llygad eich lle: mae'n digwydd bod dan ei sang â phobl sy'n gysylltiedig â diwydiannau telathrebu a milwrol yr Unol Daleithiau.

Mae pump o bob chwech o aelodau'r Grŵp Craidd hwnnw hefyd yn aelodau o ICNIRP, corff anlywodraethol uwch-deyrngar i ddiwydiannau telathrebu corfforaethol a milwrol yr UD.13

Dechreuwyd EMF yr WHO gan ddyn o'r enw Michael Repacholi, gwyddonydd heb nemor ddim profiad o ymchwil feddygol a dreuliodd ei flynyddoedd yno yn gwahodd cynrychiolwyr y diwydiannau trydan, telathrebu a milwrol i gyfarfodydd yr EMF yn fynych, ac yn trefnu i gyllid yr EMF gael ei ddarparu gan sefydliadau lobïo'r diwydiant telathrebu, yn cynnwys y GSMA (Global System Mobile Association), a'r Mobile & Wireless Forum.14

Ychwaneger y ffaith bod pennaeth presennol y Rhaglen Ymbelydredd yn yr WHO yn beiriannydd trydanol heb unrhyw brofiad mewn meddygaeth, yn aelod o’r Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electroneg sy'n deyrngar i'r diwydiant (a mwyafrif ei aelodau yn gweithio ar wneud dyfeisiau radar, ffonau a wifi), ac yn unigolyn sy'n treulio’i hamser yn derbyn cyllid gan sefydliadau ag ymlyniad â’r diwydiant fel Cyngor Ymchwil Gwyddorau Naturiol a Pheirianneg Canada (NSERC), Cyfathrebu a Thechnoleg Gwybodaeth Ontario (CITO), a Nortel,15 dim rhyfedd bod:

Llawer o wyddonwyr ymchwil feddygol ledled y byd bellach yn ystyried bod osgo’r WHO ar ymbelydredd radio-amledd yn amhriodol o ddiystyriol o'r dystiolaeth feddygol, yn gwrthod ymateb i feirniadaeth am ei weithdrefnau penderfynu, ac yn wynebu’r perygl o chwarae’r ffon ddwybig gydag iechyd aelodau o’r cyhoedd a’r lluoedd arfog.16











Arwyddwch y ddeiseb yn erbyn DARC nawr!





DARC. Y rhodd sy’n dal i gymryd.

Felly mae DARC yn ddrwg mewn theori. Ac mae DARC yn ddrwg pan fo’n gwbl weithredol. Ond o leia all e ddim niweidio’n hiechyd cyn iddo gael ei roi ar waith, does bosib?

Mae Cyfnod Adeiladu DARC yn ymuno â’r sgwrs.

Noda adroddiad cwmpasu’r Weinyddiaeth Amddiffyn (WA) ar gyfer DARC yn glir beth yw maint prosiect adeiladu i ddod â 27 dyfais radar gyfuwch ag adeiladau aml-lawr yr holl ffordd i orllewin Sir Benfro, a’u codi gyda sylfeini’r i’r antenae, sylfeini daear, llain concrit caled ar gyfer parcio, palmant cynnal a chadw’r perimedr, ffyrdd gwyliadwraeth antenae, offer cynhyrchu pŵer wrth gefn a hyd yn oed mwy o adeiladau cysylltiedig.

Mor enfawr fyddai maint y prosiect hwn, pe câi ei awdurdodi, fel y byddai angen y nifer syfrdanol o 20 lori LGV (mwy na 3.5 tunnell o bwysau yr un) ac 80 lori HGV y dydd (pedair yr awr) er mwyn llenwi’r priffyrdd.

Pe câi’r tir ei gloddio ar gyfer gosod yr holl sylfeini digynsail o helaeth hyn, mae hyd yn oed adroddiad y WA yn gorfod cyfaddef y gallai ‘gwaith cloddio neu leoli strwythurau dros-dro neu barhaol o dan y ddaear arwain at aflonyddu a symud tir sydd eisoes wedi ei halogi o fewn rhannau o’r tir a driniwyd.'17

Rhowch i mi un risg i iechyd cyhoeddus. Ac yna, cadwch nhw i ddod.

Bu Barics Cawdor ym Mreudeth, peidiwn ag anghofio, yn wersyll milwrol. Un gweithredol, gydag ardal hyfforddi tanio, cyfleusterau profi a storio arfau ffrwydrol, 'ardal helaeth y gwyddys ei bod wedi ei halogi ag asbestos' cynddrwg nes ei bod wedi'i hamgylchynu gan arwyddion rhybuddio a chyn-danciau tanwydd mawr, a lle mae PFAS, PFOS, ordnans heb ffrwydro o bosib, toddyddion clorinedig , sylweddau ymladd tân, radon â'r 'potensial i dreiddio o dan safle Barics Cawdor ac i mewn i adeiladau', wraniwm naturiol, a Strontium-90 i gyd wedi'u cadarnhau yn yr adroddiad fel halogion sy'n bresennol yn y ddaear yno.18

O ystyried hynny, gellid maddau i chi am obeithio na allai’r un o’r halogion yma waedu i mewn i’r dŵr daear, neu ganfod ffordd i mewn i’n systemau dŵr.

Heblaw bod yr adroddiad yn dweud droeon nid yn unig y gallent wneud, ond bod rhai halogion o'r gwersyll eisoes wedi gwneud.

‘Mae potensial y byddai dŵr wyneb ffo a gynhyrchir o’r ardaloedd adeiladu yn gollwng i naill ai nodweddion dŵr-wyneb lleol a/neu i ddŵr daear,’ eglura’r adroddiad. ‘Gallai gweithgareddau adeiladu arwain at lygru’r dŵr ffo hwn, gan effeithio’n andwyol yn y pen draw ar yr amgylchedd dŵr a safleoedd dynodedig oherwydd dirywiad yn ansawdd y dŵr a dirywiad cynefinoedd dyfriol.’19

Gallai fod yn iawn serch hynny. Cyn belled â, dyweder, nad oedd gan unrhyw gwmni dŵr preifat a oedd yn darparu cyflenwad dŵr i’r ganolfan filwrol hanes o wynebu beirniadaeth am i ddŵr yfed ardaloedd preswyl gael ei halogi gan ddeunyddiau peryglus yn deillio o ganolfannau milwrol y WA gerllaw… iawn?

Helo, dyma Ancala Water Services.

Mae Ancala, y cwmni dŵr preifat â’r cyfrifoldeb am ‘ddarparu cyflenwad dŵr’ Barics Cawdor Breudeth, a dau ganiatâd i ollwng elifiant ‘o waith trin carthion Barics Cawdor i Nant Breudeth’,20 fel llawer o gwmnïau dŵr preifat, yn gwmni PFI wedi’i stmbylu gan elw, sydd fel petai'n gorfod ymddiheuro drachefn a thrachefn.

Fel y tro yna ddeufis yn ôl, pan adroddodd y BBC fod diesel o wersyll milwrol Trenchard Lines yn Upavon, Wiltshire wedi treiddio i’r cyflenwad dŵr yfed.21

Neu’r tro arall, pan adroddodd y BBC i Ancala orfod cyhoeddi gorchymyn ‘peidiwch ag yfed’ yn Sain Tathan oherwydd bod rhywbeth wedi halogi’r cyflenwad dŵr, yn union drws nesaf i ganolfan Awyrlu’r WA yno. Gwrthod dweud beth oedd yr halogydd a wnaeth yr union WA sy’n rhedeg canolfan Breudeth, gan adael y drws yn agored i bob math o ddyfalu.22

Ac eto, rywsut, mae pethau’n gwaethygu.

Peryglon ymbelydredd: byrbwyll. Y cyrff sydd am ei adeiladu: neb â iotyn o ymddiriedaeth ynddyn nhw. Ond beth am y miloedd o dwristiaid sy’n cynnal economi Penrhyn Dewi, y cynefinoedd cyfoethog o anifeiliaid a phlanhigion a gâi eu dadleoli pe bai DARC byth yn gweld golau ddydd, ac effeithiau DARC ar yr economi ei hun?

Po fwyaf y gwyddoch, y mwyaf y gallwch effeithio ar bathau.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am dwristiaeth, economeg a'r amgylchedd.





Ond cyn ichi wneud hynny, os ydych yn cytuno â ni fod iechyd trigolion Sir Benfro yn haeddu gwell na fferm ymbelydredd bŵer-uchel na ellir ymddiried yn yr awdurdodau i roi gwybodaeth onest inni amdani, mae un ffordd o ymladd yn ôl. A dyna'n union sut yr enillwn ni.

Cymerwch y camau buan hyn i gefnogi Sir Benfro gyda PARC yn erbyn DARC. Gwnawn DARC yn hen hanes!

YMUNWCH Â NI AR FACEBOOK



ARWYDDWCH Y DDEISEB YN ERBYN DARC



LOBÏWCH Y RHEINI SY’N PENDERFYNU

















A hoffech gyfrannu at yr achos? Gyda’n cynlluniau uchelgeisiol i frwydro yn erbyn DARC, fyddai dim yn ein helpu’n fwy na’ch cyfraniad caredig. Diolch enfawr o flaen llaw!





















Cyfeiriadau

    1. 'Cancer incidence near radio and television transmitters in Great Britain. I. Sutton Coldfield transmitter', 145:1-9, Dolk et al. (1997),
    2. 'Adult and childhood leukemia near a high-power radio station in Rome, Italy', 155:1096-1103, Michelozzi et al. (2002),
    3. 'Incidence of cancer in the vicinity of Korean AM radio transmitters', 58:756–762, Ha et al. (2003),
    4. 'Investigation of increased incidence in childhood leukemia near radio towers in Hawaii: preliminary observations', Maskarinec et al. (1994), 58:756–762,
    5. 'Sky News – US wants to build spy base in UK to help keep satellites safe', Sky News, 16 Gorffennaf 2021,
    6. Gweler 'Health Effects from Radiofrequency Electromagnetic Fields', t. 38 ('FM radio and TV') a t. 67 ('Weather radar'), Grwp Cynghori ar Ymbelydredd nad yw’r ïoneiddio ar gyfer Asiantaeth Diogelu Iechyd (Llywodraeth y DU), Ebrill 2012, . Mae'r adroddiad yn disgrifio 'antenae nodweddiadol' (gan gyfeirio at antenae radio FM a theledu) fel rhai sydd â 'phwerau allbwn o 10–50 kW', tra rhoddir 'gwerthoedd allbwn brig ac ar gyfartaledd' radar tywydd fel 'tua 250 kW yn y naill achos a 150 W yn y llall’
    7. Ibid., t. 67
    8. Gohebiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru at Gyngor Sir Benfro, NRW cyfeirnod CAS-212933-M3Z9, PCC cyfeirnod 22/1136/SO, Eleanor Sullivan, t. 6, 17 Ebrill 2023,
    9. '24% higher cancer rates found in military pilots, ground crews, Pentagon study finds', Tara Copp, Chicago Sun Times, 20 Mawrth 2023,
    10. 'East German Soldiers Get Compensation for Radar Sickness', Deutsche Welle, 17 Chwefror 2004,
    11. 'LORAN Radiation', U.S. Department of Veterans Affairs,
    12. 'Radiation exposure, socioeconomic status, and brain tumor risk in the U.S. Air Force: A nested case–control study.', 143(5):480–486, Grayson JK (1996),
    13. 'World Health Organization, radiofrequency radiation and health - a hard nut to crack (Review)', Lennart Hardell, International Journal of Oncology, 21 Mehefin 2017,
    14-16. Ibid.
    17. 'EIA Scoping Report: Project DARC – Cawdor Barracks', Rhan 1, t. 124, Sweco, 10 Mawrth 2023,
    18-19. Ibid., t. 111 a 124
    20. 'EIA Scoping Report: Project DARC – Cawdor Barracks', Rhan 2, t. 17, Sweco, 10 Mawrth 2023,
    21. 'Trenchard Lines Upavon water contaminated with diesel', BBC News, 16 Tachwedd 2023,
    22. 'St Athan: Bottled water delivered after supply contaminated', BBC News, 13 Mai 2022,